Arweiniad i’r Arholiad as ADA - TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Wedi'i anelu at ddysgwyr, mae'r deunyddiau hyn yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdrin yn effeithiol â chwestiynau mewn papurau arholiad a pharatoi ar gyfer ADA. Bydd y PPTs gyda chymorth sain a sgript sain yn y nodiadau yn eich cerdded drwy bapur arholiad ffug, gan eich helpu i adolygu ac ymarfer technegau arholiad defnyddiol a darparu canllaw cam wrth gam i baratoi a chyflwyno eich gwaith ADA. Gallwch weithio drwy bob PPT ar unwaith, mynd i'r afael ag un neu ddwy adran ar y tro neu ailedrych ar rai rhannau o'r cyflwyniad i atgyfnerthu eich dysgu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho'r PPT i sicrhau bod y sain yn gweithio'n effeithiol, gwnewch yn siŵr bod eich clustffonau ymlaen a pheidiwch ag anghofio gofyn i'ch athro/athrawes a oes unrhyw beth nad ydych yn siŵr ohono.
Dogfennau
Bwriad yr adnoddau hyn yw bod yn fan cychwyn ar gyfer eich addysgu a dysgu, nid ydynt yn arwyddol o'r hyn a gaiff ei gynnwys mewn arholiad. Dylid cyfuno'r rhain gyda chynnwys eraill i roi profiad dysgu cyflawn i'r myfyrwyr.