Swyddi

Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol

Mae Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol yn cefnogi a monitro'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn i safon uchel. Bydd Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol yn cynnal perthnasoedd gweithio effeithiol gyda chanolfannau City&Guilds/CBAC, ac yn cynllunio a monitro'r broses o sicrhau ansawdd yn unol â gofynion a pholisïau ein cymwysterau.

Manteision gweithio fel Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol

  • Gweithio'n hyblyg o gwmpas eich rôl gyfredol
  • Derbyn hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr
  • Cyfle i gyfrannu at broffesiynoli'r sector
  • Rhoi hwb i'ch incwm

Bydd angen i Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol feddu ar y sgiliau a'r profiad canlynol:

  • Y gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cymwysterau D32, 33 a 34 neu A1 a V1 neu TAQA i Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • Cymhwyster D35 neu V2 i Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol, neu'n barod i weithio tuag at ennill y cymhwyster hwn
  • Yn gymwys yn alwedigaethol ac â gwybodaeth gyfoes am feysydd y portffolio sy'n destun sicrhau ansawdd allanol, yn unol â gofynion cymhwyster/asesiad
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoledig, yn unol â gofynion sicrhau ansawdd
  • Profiad o hyfforddi a datblygu
  • Prawf a phrofiad o ysgrifennu adroddiadau a chynlluniau gweithredu eglur, cywir a chryno
  • Trwydded yrru

Lleoliad: Cymru

Math o Gonract: Rôl Contract Blynyddol (bydd nifer y dyddiau yn amrywio)

 

(Fe fyddwch yn cael eich arwain i wefan Penodedigion CBAC i brosesu eich cais)

Cwblhewch bob tab, manylion personol, cymwysterau, cyflogaeth bresennol ac ar y dudalen pwnc, dewiswch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a rôl Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol. O dan yr adran "profiad dysgu", cwblhewch eich profiad galwedigaethol perthnasol.

Tanysgrifiwch am ddiweddariadau

Tanysgrifio