O fis Medi 2019, City & Guilds / CBAC fydd unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru.
I ymateb i adborth gan gwsmeriaid, cyflogwyr a’n rhanddeiliaid ehangach, rydym wedi adolygu’r broses sicrhau ansawdd ac ardystio a ddefnyddir ar hyn o bryd i ardystio dysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau canlynol.
Mae'r Llawlyfr Gweinyddu hwn yn rhoi'r wybodaeth hanfodol i ganolfannau yng Nghymru ar gyfer gweinyddu'r cymwysterau a reolir gan CBAC.
Os ydych am gyflwyno un neu fwy o'n cymwysterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth.
Os ydych chi'n gwneud cais i gyflwyno cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, yna dylech ddilyn proses safonol CBAC ar gyfer cymeradwyaeth canolfan. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma.
Sylwer: Nid oes angen i ganolfannau sydd wedi'u cofrestru gyda CBAC i gyflwyno cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wneud cais am gymeradwyaeth ychwanegol i gynnig y cymwysterau TGAU, UG neu Safon Uwch yn y gyfres hon.
I gyflwyno unrhyw un o'n cymwysterau eraill gallwch wneud cais gan ddefnyddio'r tri cham hawdd hyn:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chyflwyno'r cymwysterau hyn, darllenwch ein dogfen Cwestiynau Cyffredin sy'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar y broses gymeradwyo.
Rydym hefyd wedi creu dogfen Cyflwyniad i Weithio gyda City & Guilds/CBAC, a ddylai roi'r holl wybodaeth angenrheidiol sydd angen arnoch i gyflwyno'r cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant newydd yng Nghymru.
Mae’r Canllaw Asesu a Sicrhau Ansawdd i Ganolfannau ar gael yma.
Cliciwch yma i weld canllaw cyfeirio cyflym ynglyn â lle i ddod o hyd i ofynion staffio aseswyr ym mhob un o fanylebau cymeradwy’r cymwysterau IGC GP.
Bydd y cymwysterau newydd ar gael i'w haddysgu o 1 Medi 2019. Dim ond dysgwyr sy'n cofrestru i astudio ar neu ar ôl 1 Medi 2019 a fydd yn gallu dilyn y cymwysterau newydd. Bydd y cymwysterau presennol yn parhau i fod ar waith tan y dyddiad hwnnw. Yna, cynhelir y prosesau ardystio terfynol ar gyfer y cymwysterau presennol yn 2021.
Bydd y cymwysterau newydd yn gymwysterau cymeradwy cyfyngedig, felly y rhain fydd yr unig gymwysterau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant a fydd ar gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW). Mae hyn yn golygu mai'r rhain fydd yr unig fersiynau o'r cymwysterau hyn a fydd yn gymwys ar gyfer arian cyhoeddus. O fis Medi 2019, y rhain hefyd fydd yr unig fersiynau o'r cymwysterau hyn a fydd mewn fframweithiau prentisiaeth.
Mae'r cymwysterau newydd wrthi'n cael eu datblygu gan City & Guilds / CBAC. Os nad ydych yn defnyddio cymwysterau a ddarperir gan unrhyw un o'r sefydliadau hyn ar hyn o bryd, bydd gofyn i chi newid corff dyfarnu erbyn y 1af Medi 2019.
Ar hyn o bryd rydym yn cadarnhau'r union broses gyda Cymwysterau Cymru, bydd mwy o fanylion ar gael cyn hir.
Gall hyn effeithio ar eich sefydliad yn y ffyrdd canlynol:
Byddant. Bydd llawlyfrau, manylebau ac asesiadau enghreifftiol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer pob un o'r cymwysterau newydd. Bydd pob asesiad allanol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd darparwyr dysgu yn cael cymorth er mwyn sicrhau bod asesiadau mewnol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd ystod o adnoddau ar gael, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys llawlyfrau, manylebau ac asesiadau enghreifftiol. Bydd y consortiwm cyrff dyfarnu ar gyfer y cymwysterau newydd yn darparu rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau hyfforddi, gwybodaeth ac adnoddau dwyieithog er mwyn paratoi darparwyr dysgu i ddarparu'r cymwysterau newydd. Bydd rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael ar ein gwefannau.
Bydd y cymwysterau newydd ar gael i ddysgwyr sy'n cofrestru ar gyfer cymwysterau ar 1 Medi 2019, neu ar ôl hynny. Bydd cymwysterau cyfredol yn parhau i gael eu hariannu hyd at fis Medi 2019 a bydd cyfnod pontio er mwyn galluogi dysgwyr sydd eisoes yn gweithio tuag at gymhwyster i'w gwblhau. Ni fydd hyn yn effeithio ar ddysgwyr sydd eisoes yn gweithio tuag at gymhwyster, a byddant yn parhau i astudio nes iddynt gwblhau eu cymhwyster erbyn 2021.
Drwy ddiwygio cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd Cymwysterau Cymru yn lleihau nifer y cymwysterau yn y sector sy'n gymwys ar gyfer arian cyhoeddus o fwy na 240 i ddim ond 19. Mae cael cyfres lai a mwy cydlynol o gymwysterau yn golygu nad yw'r gyfres newydd yn cynnwys cymwysterau amgen i gymryd lle'r holl gymwysterau sydd ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r gyfres yn parhau i gynnig cyfle i ddysgwyr gael mynediad at yr holl lwybrau sydd ar gael ar hyn o bryd i gyflogaeth ac astudiaethau pellach a lefel uwch, a datblygu ar hyd y llwybrau hynny. Mae hefyd yn galluogi dysgwyr ar lefel 3 i gael pwyntiau Tariff UCAS.
Mae'r gyfres o gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant newydd yn cynnwys dau gymhwyster lefel 3 sy'n cynnwys 720 o Oriau Dysgu dan Arweiniad (ODA): un ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac un ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Caiff y cymwysterau hyn eu cynllunio i gael eu cynnig i ddysgwyr sy'n astudio'n llawn amser mewn colegau AB, er y gallant hefyd fod o ddiddordeb i fathau eraill o ddarparwyr, gan gynnwys ysgolion.
Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys cymhwyster Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae'r cymhwyster hwn yn cyfuno iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant ar lefel UG, gyda llwybr iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant ar lefel U2. Nod y cymhwyster Safon Uwch yw ategu'r cymwysterau mwy er mwyn darparu rhaglen astudio 1080‐ODA lawn sy'n debyg o ran maint i'r diplomâu estynedig sydd ar gael ar hyn o bryd.
Caiff y cymwysterau newydd eu cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru. Mae hyn yn golygu y byddant yn gymwys i gael arian cyhoeddus ar raglenni dysgu ar gyfer dysgwyr hyd at 19 oed. Caiff rhai o'r cymwysterau yn y gyfres newydd eu cynnwys mewn fframweithiau prentisiaeth ar gyfer gofal cymdeithasol neu ofal, dysgu a datblygiad plant. Caiff y rhain eu hariannu drwy gynlluniau prentisiaeth Llywodraeth Cymru. Er y bydd arian ar gael mewn ffyrdd gwahanol ar gyfer pob un o'r cymwysterau newydd, efallai y bydd angen i ddysgwyr a chyflogwyr ariannu eu hunain neu eu cyflogeion o dan rai amgylchiadau er mwyn cwblhau'r cymhwyster.
Yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid, cawsom safbwyntiau cymysg ar gymhwyster Lefel 1 penodol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant. O ganlyniad, mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu y gall canolfannau naill ai ddarparu cymwysterau Lefel 1 sy'n benodol i sector neu gymwysterau mwy generig mewn Astudiaethau Galwedigaethol. Awgrymodd yr adborth gan y sector pa mor bwysig oedd cynnal brwdfrydedd dysgwyr yn y maes pwnc a chefnogi'r rhai hynny a allai fod am ystyried gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant. Mae rhestr lawn o'r cymwysterau yr effeithir arnynt ar gael ar Wefan Cymwysterau Cymru.
Mae tasgau’r asesiadau mewnol Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd i’w gweld dan ‘Dogfennau Allweddol a Deunyddiau’r Cwrs’ ac mae angen cyfrinair i’w hagor.
Gellir cael mynediad at y cyfrineiriau drwy Wefan Ddiogel CBAC, dan ‘Adnoddau’ > ‘Tasgau Asesu Di-arholiad’.
Mae tasgau’r asesiadau mewnol Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd i’w gweld dan ‘Dogfennau Allweddol a Deunyddiau’r Cwrs’ ac mae angen cyfrinair i’w hagor.
Gellir cael mynediad at y cyfrineiriau drwy Wefan Ddiogel CBAC, dan ‘Adnoddau’ > ‘Tasgau Asesu Di-arholiad’.
Rydym wrth law i ateb unrhyw un o'ch ymholiadau.
Tîm Ansawdd City & Guilds
0300 303 5352
Cymorth Canolfan CBAC
02920 265 077