Neidio i'r prif gynnwy

Cyflogwyr

Ers mis Medi 2019 City & Guilds/CBAC yw unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant sydd wedi'u hariannu yng Nghymru.

Staff Discussions

Fe wnaeth Cymwysterau Cymru adolygiad o gymwysterau yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gan ddarganfod y dylid gwneud nifer o newidiadau i'r cymwysterau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.

Mae'r cymwysterau newydd yn lleihau cymhlethdodau ac yn codi ansawdd y deilliannau dysgu a'r profiad dysgu, sy’n hanfodol i gael y gofal a’r gefnogaeth orau. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru a'r GIG yng Nghymru yn gwbl gefnogol i'r weledigaeth hon ac yn bartneriaid gweithredol yn y broses ddatblygu.

Bydd cymwysterau sydd eisoes yn bodoli yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u cydnabod, ond mae datblygiad proffesiynol parhaus yn bwysig er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn parhau i feithrin eu sgiliau.

Byddwch. Rydym yn cyd-weithio gydag ystod eang o gynrychiolwyr y sector, Cymwysterau Cymru ynghyd a chyrff dyfarnu sydd wedi cael eu comisiynu i sicrhau bod y cymwysterau'n cynnwys deunydd perthnasol a chyfredol ac yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd sydd eu hangen yn y gweithle.

Yn ogystal â hynny, bydd cyflwyno'r cymhwyster ‘craidd’ yn sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu'r wybodaeth allweddol a'r ddealltwriaeth angenrheidiol er mwyn dechrau gweithio yn y sector, ac yn cefnogi dilyniant heb ddyblygu dysgu.

Mae'r cymwysterau wedi’u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, mae hyn yn golygu y byddan nhw'n gymwys i dderbyn arian cyhoeddus ar gyfer rhaglenni i ddysgwyr hyd at 19 oed.

Bydd rhai o gymwysterau'r gyfres ar fframweithiau prentisiaeth ar gyfer gofal cymdeithasol neu ofal, dysgu a datblygiad plant. Cynlluniau prentisiaeth Llywodraeth Cymru fydd yn ariannu'r rhain.

Er y bydd pob un o'r cymwysterau newydd yn cael eu hariannu mewn gwahanol ffyrdd, efallai y bydd angen i ddysgwyr a chyflogwyr dan amgylchiadau penodol ariannu eu hunain neu eu gweithwyr i gwblhau'r cymhwyster.