Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac Amodau

Mae defnydd o'r wefan hon yn amodol ar y Telerau ac Amodau canlynol

Mae eich defnydd o'r wefan yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn o ddyddiad eich ymweliad cyntaf â'r safle.

Mae City & Guilds / CBAC yn cadw'r hawl i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg trwy bostio newidiadau ar-lein. Mae eich defnydd parhaus o'r safle hwn ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel y'i diwygiwyd.

Nid ydym ni (City & Guilds / CBAC) yn cymryd cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, ni allwn dderbyn unrhyw atebolrwydd am gywirdeb neu gynnwys. Mae ymwelwyr sy'n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain.

Mae City & Guilds / CBAC yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i ddefnyddwyr redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd a lawrlwythir o'r Rhyngrwyd. Er ei bod yn annhebygol iawn, ni all City & Guilds na CBAC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, aflonyddwch neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o'r wefan hon.

Mae'r holl ddeunydd ar y wefan hon yn hawlfraint © CBAC Ltd. Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o'r wefan hon ar unrhyw ffurf, nac wrth unrhyw fodd, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan City & Guilds neu CBAC. Bydd unrhyw ddata personol a gesglir trwy'r wefan hon yn cael ei drin yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (UE) 2016/679 (GDPR). Mae eich defnydd parhaus o'r wefan yn dangos eich bod yn hapus i dderbyn cwcis CBAC.

Os byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, byddwn yn gwneud hynny yn unol â'n polisi preifatrwydd.

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau yn destun awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.