Mae’n bleser gennym gadarnhau bod Uned 350, Cefnogi defnyddio meddyginiaethau mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, wedi cael ei diweddaru. Mae’r uned hon yn rhan o’r cymwysterau Lefel 2 a 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Mae nod yr uned wedi ei ddiwygio, a chadarnhawyd mai ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol y mae’r uned ar gael, ac nad yw’n briodol i’r rheini sy’n gweithio’n benodol mewn lleoliadau iechyd.
Yn adran Canllawiau’r Uned, cyfeiriwyd at ddogfennau canllawiau allweddol:
Dylai pob canolfan gymeradwy sicrhau bod ei thimau asesu yn gweithio o’r Llawlyfr Cymwysterau diweddaraf, a bod yr uned uchod, os caiff ei chynnig i ddysgwyr, yn cael ei safoni cyn gynted â phosibl.