Cwrs Catalydd DEEP

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) ac yn cynnig ystod o y cyfleoedd dysgu a datblygu ar-lein hyn yn rhad ac am ddim rhwng mis Hydref ac mis Rhagfyr. Gellir mynychu’r holl sesiynau fel digwyddiadau unigol.

 

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu o gasglu, archwilio a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth (tystiolaeth ymchwil, doethineb ymarferwyr a safbwyntiau pobl â phrofiad o fyw) mewn dysgu a datblygu trwy ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Mae Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ddangos sut y maent yn defnyddio tystiolaeth wrth ymarfer, cynllunio a llunio polisïau a mynd y tu hwnt i ddangosyddion perfformiad i archwilio profiad a chanlyniadau’r bobl y maent yn eu cefnogi.

Gall defnyddio dulliau DEEP gefnogi pobl sy’n gweithio ar draws gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gyda’r ddealltwriaeth a’r offer i ddarparu gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd.

I archebu’r cwrs Catalydd ac unrhyw un o’r sesiwn isod, defnyddiwch y ddolen hon: https://www.eventbrite.com/cc/deep-3116749 

 

Teitl

Am beth mae’n sôn

Dyddiad

Cwrs Catalydd DEEP

Mae’r cwrs 10 sesiwn hwn yn gyfarparu pobl i arwain dysgu a datblygiad gan ddefnyddio’r dulliau DEEP

29/09 tan 15/12

Sesiynau y gellir eu harchebu yn unigol

Gwneud penderfyniadau ar y cyd

Dysgwch am wneud penderfyniadau consensws a sut mae defnyddio’r dull hwn yn helpu dod o hyd i gamau gweithredu a/neu atebion y mae pawb yn eu cefnogi neu’n gallu byw gyda nhw

1af Hydref

Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: egwyddorion DEEP

 

Archwiliwch yr 8 egwyddor sy’n sail i’r dull DEEP sy’n canolbwyntio ar bobl o ddefnyddio tystiolaeth mewn dysgu a datblygu

2il Hydref

Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: Gwahanol ffyrdd o archwilio straeon

Dysgwch wahanol ffyrdd o archwilio straeon. Rhennir ystod o ddulliau gan gynnwys dadansoddi cynnwys a thematig

6ed Hydref

Gofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd:

y fframwaith Synhwyrau

 

Dysgwch am ofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd a llesiant rhyngddibynnol drwy archwilio’r chwe ‘Synnwyr’

7fed Hydref

 

Arfer adlewyrchol a chydgynhyrchu

Cymuned ymholi

Dysgwch sut i gefnogi pobl i archwilio pynciau mewn ffordd gwerthfawrogi ac yn cefnogi anghytundeb myfyriol

14fed Hydref

Ymarfer adfyfyriol a chydgynhyrchu

Pwyntiau siarad

Dysgwch sut i ddefnyddio ‘datganiadau pryfoclyd’, a sgwrs archwiliadol i gael deialog gyfoethog am dystiolaeth a materion ymarfer a all fod yn sail i gydgynhyrchu

21ain Hydref

Ymarfer a dysgu myfyriol:

Eiliadau hud ac Eiliadau trasig

Deall sut i gasglu ‘eiliadau hud’ ac ‘eiliadau trasig’ pobl a sut y gellir defnyddio’r straeon hyn fel catalydd ar gyfer dysgu a datblygu’n ymarferol

18fed Tach

Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: Mapio Effaith Crychdonni

Cyflwyno’r elfennau allweddol o Mapio Effaith Crychdonni

19eg Tach

Rhannu tystiolaeth:

Gyda ffocws ar rhifau

 

Dysgwch sut i rannu tystiolaeth mewn ffordd sy’n ennyn diddordeb calonnau a meddyliau trwy ddefnyddio straeon delweddau a dulliau creadigol eraill

25fed Tach

Arfer adfyfyriol a gwerthuso:

Newid Mwyaf Arwyddocaol

Dysgwch egwyddorion a hanfodion casglu ac archwilio straeon gyda’r dull Newid Mwyaf Arwyddocaol

26ain Tach

Gwerthuso gofal sy’n canolbwyntio ar y person:

Cyflwyniad i arolwg PERCCI

Archwilio themâu allweddol gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a sut y datblygwyd offeryn arolwg PERCCI a sut y gellir ei ddefnyddio’n ymarferol

3ydd Rhag