Cylchlythyr Medi 2022: Lefel 2 IGC Egwyddorion a Chyd-destunau

Trefniadau ar gyfer Haf 2023

Uned 1 – Hybu iechyd a llesiant drwy gydol camau bywyd

Fel y cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ym mis Mai 2022, bydd CBAC yn darparu Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer yr asesiadau allanol ysgrifenedig fel y gwnaethom ym mis Ionawr 2022 a haf 2022. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhyddhau yn nhymor yr hydref ar gyfer arholiadau Ionawr ac yn nhymor y gwanwyn ar gyfer arholiadau'r haf. Byddant ar ffurf debyg iawn i'r fersiynau blaenorol. Argymhellwn o hyd eich bod yn addysgu holl gynnwys yr unedau hyn a bod unrhyw wybodaeth ymlaen llaw yn fodd o helpu i ganolbwyntio gwaith adolygu dysgwyr yn unig.

Uned 2 – Iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â chefnogi darpariaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer gofal person-ganolog

Noder yr asesir Aseiniad 1 ac Aseiniad 2 yn 2022.

Adnoddau

  • Trefnwyr Gwybodaeth – mae'r rhain yn ddefnyddiol iawn o ran darparu neu adolygu'r cwrs neu i'w defnyddio fel man cychwyn i chi greu eich trefnwyr gwybodaeth eich hun.

  • Mae adroddiadau Uwch Arholwyr / Uwch Gymedrolwyr cyfres haf 2022 ar gael yn awr. Argymhellwn eich bod yn darllen y rhain yn ofalus (ynghyd ag adroddiad eich canolfan sydd ar gael ar ddiwrnod y canlyniadau). Mae'r rhain yn cynnwys sylwebaeth a sylwadau defnyddiol am berfformiad ymgeiswyr yn y gyfres hon a gallai hynny helpu unrhyw ddysgwyr y dyfodol fydd gennych.

Dysgu Proffesiynol

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi wyneb yn wyneb (neu ar-lein) a gallu rhoi adborth i chi ar gyfres 2022, tynnu sylw at yr ymarfer da rydym wedi'i weld a'ch cynghori o ran cyflwyno'r cwrs, marcio asesiadau, rhannu adnoddau ac ati.

Mae'n bosibl bwcio ar-lein yn awr.

Newid i'r Swyddog Pwnc:

Noder os gwelwch yn dda y bydd Karen Bushell yn cymryd drosodd fel Swyddog Pwnc y cymhwyster hwn o 1af Medi 2022.

Hilary Wyman fydd swyddog cefnogi'r pwnc o hyd.

Cysylltwch â ni yn: HSCandCC@wjec.co.uk