Adolygu, diweddaru a lansio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS)

Yn dilyn adolygiad ledled y DU, mae'r NOS ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant wedi'u diweddaru. Mae’r NOS newydd ar gael i'w pori a'u lawrlwytho ar wefan Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygiad.

Mae'r gyfres hon o NOS yn disgrifio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant i safon arfer da a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae'r NOS wedi'u datblygu gan sefydliadau gosod safonau ledled y DU, mewn partneriaeth â chyflogwyr, gweithwyr, pobl â phrofiad byw a rhanddeiliaid eraill.

Fel rhan o'r broses adolygu, mae'r iaith wedi'i symleiddio i adlewyrchu arfer cyfredol yn well. Lle bo'n briodol, mae NOS wedi'u cyfuno i gael gwared ar ddyblygu ac mae bylchau yn y cynnwys wedi'u nodi a'u datrys.

Mae 151 NOS. Mae pob safon yn cynnwys y meini prawf perfformiad a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer arfer da.

Mae diwygiadau 2026 yn pwysleisio pwysigrwydd themâu fel:

  • Ymarfer sy'n seiliedig ar drawma
  • Urddas, caredigrwydd a chydymdeimlad
  • Cyfranogiad a gwneud penderfyniadau
  • Niwroamrywiaeth
  • Cynaliadwyedd

Ychwanegwyd pedwar NOS newydd hefyd. Y rhain yw:

  • Goruchwylio a chefnogi eraill
  • Hyrwyddo chwarae
  • Arwain effeithiolrwydd timau
  • Arwain y defnydd o dechnoleg ddigidol

https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/nos-iechyd-gofal-cymdeithasol-gddp

Fe fydd canllawiau’r cymwysterau yn cael eu diweddaru I adlewyrchu’r NOS newydd.