Canolfannau / Darparwyr hyfforddiant
Ers mis Medi 2019 City & Guilds/CBAC yw unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant sydd wedi'u hariannu yng Nghymru.

Os ydych am gyflwyno un neu fwy o'n cymwysterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth.
Os ydych chi'n gwneud cais i gyflwyno cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, yna dylech ddilyn proses safonol CBAC ar gyfer cymeradwyaeth canolfan. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma.
Sylwer: Nid oes angen i ganolfannau sydd wedi'u cofrestru gyda CBAC i gyflwyno cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wneud cais am gymeradwyaeth ychwanegol i gynnig y cymwysterau TGAU, UG neu Safon Uwch yn y gyfres hon.
I gyflwyno unrhyw un o'n cymwysterau eraill gallwch wneud cais gan ddefnyddio'r tri cham hawdd hyn:
- Lawrlwythwch Ffurflen Gais
- Edrychwch ar ein dogfen ganllaw ar gyfer cwblhau'r cais
- E-bostiwch eich ffurflen gais i ni - cymeradwyo@digc.cymru
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chyflwyno'r cymwysterau hyn, darllenwch ein dogfen Cwestiynau Cyffredin sy'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar y broses gymeradwyo.
Rydym hefyd wedi creu dogfen Cyflwyniad i Weithio gyda City & Guilds/CBAC, a ddylai roi'r holl wybodaeth angenrheidiol sydd angen arnoch i gyflwyno'r cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant newydd yng Nghymru.
Mae’r Canllaw Asesu a Sicrhau Ansawdd i Ganolfannau ar gael yma.
Cliciwch yma i weld canllaw cyfeirio cyflym ynglyn â lle i ddod o hyd i ofynion staffio aseswyr ym mhob un o fanylebau cymeradwy’r cymwysterau IGC GP.
Mae templed gwag o fatrics yr ymgeisydd ar gael yma. Sicrhewch fod hwn yn cael ei anfon at eich SSAA a hclw.quality 30 diwrnod cyn y gweithgaredd ac ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol.
Sut i archebu eich gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol (SAA) ar gyfer Lefel 2 a 3 GChDDP Ymarfer a Theori:
- Dylech gytuno â'ch Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol (SSAA) ynghylch pryd fydd eich gweithgaredd sicrhau ansawdd allanol yn digwydd (Ionawr, Ebrill, Mehefin/Gorffennaf neu Gorffennaf/Awst)
- Dylech gofrestru eich dysgwyr a chyflwyno eich canlyniadau o fewn y cyfnod cofrestru IAMIS perthnasol.
Gall gymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i'ch cofrestriadau gael eu prosesu ac i ddysgwyr ymddangos ar y System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol (IAMIS) i chi allu mewnbynnu eich canlyniadau.
Argymhellwn eich bod yn cofrestru eich dysgwyr o leiaf 7 diwrnod cyn i'r cyfnod ddod i ben fel bod digon o amser i chi fewnbynnu canlyniadau dysgwyr er mwyn i'ch SSAA weld y rhain cyn yr ymweliad. Cyflwynwch eich canlyniadau terfynol yn amserol fel y gall eich Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol weld eich cyflwyniad cyn eich ymweliad Sicrhau Ansawdd Allanol sydd wedi’i drefnu.
Cofiwch: Wrth gofrestru dysgwyr drwy ddata sylfaenol CBAC, mae angen i chi chwilio am y teitl data sylfaenol cyfatebol isod.
Teitl Data sylfaenol CBAC | Cyfnod Cofrestru IAMIS Agor | Cyfnod Cofrestru IAMIS Cau | Gweithgaredd SAA yn ofynnol |
1 (Tachwedd 2025) | 8fed Medi 2025 | 19eg Rhagfyr 2025 | Ionawr 2026 |
2 (Ionawr 2026) | 2ail Chwefror 2026 | 27ain Mawrth 2026 | Ebrill 2026 |
3 (Mehefin 2026) | 4ydd Mai 2026 | 24ain Gorffennaf 2026 | Mehefin/Gorffennaf 2026 |
4 (Awst 2026) | 13eg Gorffennaf 2026 | 4ydd Medi 2026 | Gorffennaf/Awst 2026 |
Cysylltwch â ni
Tîm Ansawdd City & Guilds
cymeradwyo@digc.cymru
0300 303 5352
Cymorth Canolfan CBAC
cymeradwyo@digc.cymru
02920 265 077