Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac Amodau

Mae'r defnydd o'r wefan hon yn ddarostyngedig i'r Telerau ac Amodau canlynol

Mae eich defnydd o'r wefan yn golygu derbyn y Telerau a'r Amodau hyn ar ddyddiad eich ymweliad cyntaf â'r safle.

Mae City & Guilds / CBAC yn cadw'r hawl i newid y telerau a'r amodau hyn ar unrhyw adeg gan gyhoeddi newidiadau ar-lein. Mae eich defnydd parhaus o'r wefan hon ar ôl i'r newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel yr addaswyd.

Nid ydym ni (City & Guilds / CBAC) yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. Rydym yn cymryd pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, ni allwn dderbyn unrhyw atebolrwydd am y cywirdeb neu'r cynnwys. Mae ymwelwyr sy'n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain.

Mae City & Guilds / CBAC yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cyfnod cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i ddefnyddwyr redeg rhaglen gwrth firws ar bob deunydd a ddadlwythir o'r Rhyngrwyd. Er ei bod yn annhebygol iawn, ni all City & Guilds neu CBAC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o'r wefan hon.

Mae'r holl ddeunydd ar y wefan hon yn hawlfraint © WJEC CBAC Cyf. Cedwir pob hawl. Ni ellir ail gynhyrchu unrhyw ran o'r wefan hon mewn unrhyw ffurf, neu drwy unrhyw fodd, heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol gan City & Guilds neu CBAC. Bydd unrhyw ddata personol a gesglir drwy'r wefan hon yn cael ei thrin yn unol â Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (UE) 2016/679 (GDPR). Mae eich defnydd parhaus o'r wefan yn nodi eich bod yn hapus i dderbyn cwcis CBAC.

Os byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, byddwn yn gwneud hynny yn unol â'n polisi preifatrwydd.

Mae'r telerau a'r amodau hyn am gael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.