Rydym yn awr yn recriwtio Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol i gefnogi a monitro'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn i safon uchel. Bydd Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol yn cynnal perthnasoedd gweithio effeithiol gyda chanolfannau City&Guilds/CBAC, ac yn cynllunio a monitro'r broses o sicrhau ansawdd yn unol â gofynion a pholisïau ein cymwysterau.
Lleoliad: Cymru
Math o Gonract: Rôl Contract Blynyddol (bydd nifer y dyddiau yn amrywio)
(Fe fyddwch yn cael eich arwain i wefan Penodedigion CBAC i brosesu eich cais)
Cwblhewch bob tab, manylion personol, cymwysterau, cyflogaeth bresennol ac ar y dudalen pwnc, dewiswch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a rôl Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol. O dan yr adran "profiad dysgu", cwblhewch eich profiad galwedigaethol perthnasol.