Mae'r sesiynau Taro Mewn hyn yn rhoi cyfle i ganolfannau cymeradwy drafod sut y maent yn darparu unrhyw un o'r cymwysterau a restrir isod:
Bydd pob sesiwn yn para hyd at 45 munud a bydd yn cael ei hwyluso gan Amy Allen-Thomas, Swyddog Pwnc, CBAC a Suzi Gray, Cynghorydd Technegol, City & Guilds.
Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi tiwtoriaid, aseswyr a swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol sy'n ymwneud â chyflwyno ac asesu'r cymwysterau a restrir uchod. Bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu gofyn cwestiynau a gofyn am eglurhad ynghylch cyflwyno ac asesu’r cymwysterau.
Mae sesiynau ar gael i ganolfannau cymeradwy sydd â chofrestriadau dysgwyr CYFREDOL
*Sylwch fod 'canolfan' yn cael ei phennu yn ôl rhif y ganolfan ac mae'n ofyniad gorfodol cynnwys y rhif hwn wrth gofrestru ar gyfer sesiwn. Bydd y sesiwn gyntaf a archebir gan ganolfan yn cael ei blaenoriaethu, bydd unrhyw archebion ychwanegol gan y ganolfan honno yn cael eu canslo a'u cynnig i ddarparwyr cymeradwy eraill.