Mae'r broses o gyflwyno gwaith ar-lein yn syml ac yn hawdd. Cyfeiriwch at y cyfarwyddyd pwnc am fanylion y gwaith i'w gyflwyno. Mae'r fersiynau diweddaraf i'w gweld ar ein gwefan: www.cbac.co.uk
Byddwn yma i'ch helpu drwy gydol y broses. Yn ogystal, rydym wedi datblygu canllaw defnyddiol a thiwtorial fideo sydd i'w gweld ar ein tudalennau gwe e-gyflwyno penodol. Ewch i https://www.cbac.co.uk/home/gweinyddu/e-gyflwyno/
Noder, yn achos gwaith a asesir yn fewnol, nid yw'r broses gymedroli'n cychwyn tan ar ôl y dyddiad cau cyflwyno. Rydym yn cadw'r hawl i ofyn am waith ymgeiswyr ychwanegol i gynorthwyo proses gymedroli deg. Mae'n hanfodol felly bod yr holl waith yn barod gennych i'w lwytho i fyny os oes angen.
Beth ddylwn i ei wneud nawr?
Athrawon a Swyddogion Arholiadau
Wrth i chi baratoi i gyflwyno gwaith yn electronig, rydym yn argymell eich bod yn cymryd y camau canlynol:
- Cyfeiriwch at y ddogfen Y Broses E-gyflwyno – Canllaw Pynciau Haf 2022 am wybodaeth am y mathau o ffeiliau y gallwch eu llwytho i fyny. Mae mwy o wybodaeth i'w chael yma.
- I gyflymu'r broses o lwytho gwaith i fyny ar-lein, rydym yn cynghori eich bod yn cadw gwaith ar y fformat cywir wrth ei greu, er mwyn osgoi gorfod trosi ffeiliau yn ddiweddarach. Lle y bo'n bosibl, dylid annog ymgeiswyr i weithio'n electronig, neu os bydd angen sganio dogfennau, gwnewch hyn wrth fynd ymlaen, gan ddefnyddio enwau priodol ar y ffeiliau wrth gadw gwaith. Mae nifer o apiau ar gael ar gyfer ffonau clyfar a thabledi a fydd yn gwneud hyn yn hawdd ac yn creu ffeiliau pdf. Noder, dim ond llythrennau a rhifau y gellir eu cynnwys yn enwau'r ffeiliau, heb unrhyw nodau arbennig e.e. ?,! /$. Dylech sicrhau bod ffeiliau'n cael eu henwi fel bod modd eu hadnabod yn hawdd, drwy gynnwys enwau neu rifau ymgeiswyr a theitl y dasg.
- Wrth i chi lenwi gwaith papur a ffurflenni, sicrhewch fod popeth wedi'i lofnodi yn ôl yr angen. Gall gwaith sy'n cael ei gyflwyno heb y dilysiad cywir arwain at roi marc o 0 i ymgeisydd. Gellir lawrlwytho pob ffurflen o dudalennau pynciau ein gwefan.
- Gwnewch yn siŵr bod yr holl ffeiliau'n gywir a chyflawn, gan gynnwys cadarnhau y bydd ffeiliau sain a fideo yn chwarae hyd y diwedd, a gwnewch gopi wrth gefn o bopeth rhag ofn y bydd unrhyw broblemau o ran y cyfrifiadur neu'r rhwydwaith.
Swyddogion Arholiadau yn unig
- Anfonwch y cylchlythyr hwn ymlaen at yr aelod(au) perthnasol o staff yn eich canolfan sy'n gyfrifol am y pynciau a restrir uchod.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu mewngofnodi ar wefan Surpass. Cliciwch ar 'Can't Access Your Account?' os oes angen i chi ailosod eich cyfrif.Bydd angen i chi allu mewngofnodi er mwyn cael y codau allwedd ar gyfer pob ymgeisydd y mae angen iddo gyflwyno gwaith yn electronig.
Beth yw'r amserlen ar gyfer llwytho gwaith i fyny?
Mae'r terfynau amser cyflwyno ar gyfer bob pwnc ar y tabl ar frig y ddogfen hon.
Mae rhestr wirio wedi'i chreu i ganolfannau ei defnyddio a'i rhannu â'u hathrawon yn ystod y broses e-gyflwyno a gellir ei gweld ar dudalen E-gyflwyno CBAC.
Am ymholiadau yn ymwneud â'r broses E-Gyflwyno, ffoniwch ein llinell gymorth benodol newydd – 029 2240 4310 neu anfonwch e-bost at e-gyflwyno@cbac.co.uk
Canllawiau fideo
Mae nifer o ganllawiau fideo ar gael ar y dudalen E-gyflwyno i'ch helpu i baratoi eich ffeiliau a’u llwytho i fyny.