Mae nifer o newidiadau a diweddariadau sy’n cynnwys:
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r llawlyfr cymwysterau sy’n cynnwys:
Mae’r holl newidiadau wedi’u rhestru yn y tabl rheoli fersiynau ar flaen y llawlyfr ac mae ar gael i’w lwytho i lawr o’r dudalen cymwysterau o dan ‘Dogfennau allweddol a deunyddiau cwrs’.
Mae’n bleser gennym lansio ein rhifyn cyntaf y gwanwyn hwn o Adroddiad yr Arholwr ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd (8040-02).
Mae hwn ar gael ar y dudalen cymwysterau o dan ‘Dogfennau allweddol a deunyddiau cwrs’
Datblygwyd yr adroddiad i’w ddefnyddio fel adnodd adborth i ganolfannau er mwyn gwella addysgu a pharatoi ar gyfer y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd 8040-02.
Mae’r adroddiad yn rhoi sylwadau cyffredinol ar y marciau pasio a sut gwnaeth yr ymgeiswyr ym mhob un o’r profion ac mae’n amlygu themâu cyffredin o ran agweddau technegol sy’n cael eu harchwilio yn yr asesiadau.
Byddwn yn cyhoeddi rhifyn o’r adroddiad yn y gwanwyn ac yn yr hydref.
Mae adolygiad diweddar o’r cyfnodau cofrestru dysgwyr sy’n gysylltiedig â’r gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (8040) a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (8041) wedi canfod rhai anghysondebau gyda’n disgwyliadau safonol. Gan ystyried hyn, rydym wedi cymryd camau i sicrhau bod y cyfnodau cofrestru, cyn belled ag y bo modd, yn gyson ar draws y gyfres, ac yn rhoi cyfnod rhesymol i ddysgwyr gyflawni eu cymhwyster.
Yn sgil y tarfu a achoswyd gan y pandemig, rydym wedi ymestyn y cyfnod cofrestru am flwyddyn ar gyfer pob dysgwr cofrestredig sy’n cwblhau’r cymwysterau canlynol.
Mae’r estyniad hwn yn berthnasol i ddysgwyr sydd wedi cofrestru erbyn 12 Chwefror 2022 ar y cymwysterau canlynol:
Rydym wedi ymestyn y cyfnodau cofrestru dysgwyr yn awtomatig i bob dysgwr a oedd wedi cofrestru erbyn 12 Chwefror 2022. Os ydych chi’n meddwl bod dysgwr wedi cael ei anghofio, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â hclw.customer@cityandguilds.com
Bydd dysgwyr sydd wedi cofrestru o 12 Chwefror 2022 ymlaen i gwblhau cymwysterau Ymarfer Lefel 2 a Lefel 3 a/neu gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 yn cael hyd at 3 blynedd i gwblhau eu cymhwyster o’r dyddiad cofrestru ymlaen, neu erbyn y dyddiad ardystio terfynol, pa un bynnag sydd gyntaf.
Rydym wedi adolygu dyddiadau cofrestru terfynol a dyddiadau ardystio terfynol y gyfres o gymwysterau ac wedi gwneud rhai newidiadau i’r dyddiadau ardystio terfynol. Mae’r newidiadau hyn wrthi’n cael eu gwneud ar wefan Cymwysterau yng Nghymru (qiw.wales).
Gall hyn gymryd nifer o wythnosau. Mae’r tabl isod yn dangos y dyddiadau cofrestru ac ardystio terfynol diwygiedig:
Rhif y cymhwyster |
Disgrifiad byr |
Dyddiad cofrestru terfynol |
Dyddiad ardystio terfynol |
8040-04 C00/1253/4 |
Lefel 2 HSC Ymarfer | 31/08/2024 | 31/08/2027 SAP a Cymwysterau yng Nghymru |
8040-05 |
Lefel 3 HSC Ymarfer (Oedolion) | 31/08/2024 |
31/08/2027 |
8040-06 C00/1253/5 |
Lefel 3 HSC Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) | 31/08/2024 |
31/08/2027 |
8040-08 C00/3977/8 |
Lefel 3 HSC Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) | 31/08/2025 | 31/08/2028 |
8040-09 C00/1260/5 |
Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes HSC | 31/08/2025 |
31/08/2028 |
8040-10 C00/1260/7 |
Lefel 5 Arwain a Rheoli ym maes HSC | 31/08/2025 | 31/08/2028 |
8040-11 |
Lefel 4 Lleoli Oedolion/Cysylltu Bywydau | 31/08/2025 | 31/08/2028 |
8040-12 |
Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol | 31/08/2025 |
31/08/2028 |
8040-13 |
Lefel 4 Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol |
31/08/2025 |
31/08/2028 |
8040-91 | Pecyn Lefel 4 – Paratoi/Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Arwain a Rheoli | 31/08/2025 | 31/08/2028 |
8040-92 | Pecyn Lefel 4 8040-09 ac 8040-12 |
31/08/2025 | 31/08/2028 |