Digwyddiadau Hydref/Gaeaf 2022

Wrth i bethau ddechrau dychwelyd i’r arfer, rydyn ni’n rhoi cynnig ar ffordd newydd o wneud rhai pethau drwy gynnal ein cyfres Hydref/Gaeaf 2022 wyneb yn wyneb.

Bydd y rhain yn sicrhau bod timau cyflawni mewn canolfannau yn gallu gwneud y canlynol:

  • cael gafael ar ragor o gymorth wedi’i deilwra
  • manteisio ar gyfleoedd rhwydweithio pwrpasol.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol sydd wedi cael contract i ddarparu’r Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD) ledled Cymru a byddant yn cynnwys darparwyr dysgu seiliedig ar waith a cholegau Addysg Bellach. Cyfeirir yn aml at y sefydliadau hyn fel y Prif ddeiliaid contract.

Rydym yn falch o gadarnhau y bydd y sefydliadau canlynol, yn eu rôl fel Prif ddeiliaid contract, yn gweithredu fel prif ganolfannau ac yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer eu rhwydweithiau partner:

  • ACT
  • Educ8
  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Coleg Cambria
  • Coleg Menai
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Coleg Sir Benfro
  • Hyfforddiant ITEC
  • Grŵp NPTC
  • Hyfforddiant Cambrian

Os yw eich canolfan yn darparu’r cymwysterau HCLW mewn partneriaeth ag un neu ragor o’r sefydliadau uchod, edrychwch ar y tabl isod i weld y digwyddiad sydd ar gael i’ch canolfan. 

Os nad yw eich Prif Sefydliad wedi cadarnhau ei wybodaeth am y digwyddiad eto, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth. 

Cofiwch nad oes modd i chi archebu lle mewn digwyddiad drwy wefan HCLW. Dim ond y prif sefydliad sy’n gallu dyrannu lleoedd, ac mae’r lleoedd hynny wedi cael eu cyfyngu i’w partneriaid. Cysylltwch â’r brif ganolfan a nodwyd os nad ydych chi’n siŵr os yw’r sefydliad wedi dyrannu lle ar eich cyfer.

Bydd y tabl isod yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd wrth i bob prif ganolfan gadarnhau eu trefniadau. Byddwch yn amyneddgar yn ystod y cyfnod hwn.

Calendr Digwyddiadau - Hydref/Gaeaf 2022 (PDF)

Tanysgrifiwch am ddiweddariadau

Tanysgrifio