Mewn ymateb i'r amhariad parhaus a achoswyd gan y pandemig Covid-19 ac i gydnabod y ffaith y bydd ei effaith i’w weld ar y sector am weddill 2021/22, mae'r Consortiwm wedi parhau i weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC/SCW) ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i nodi addasiadau i asesu a fydd yn cefnogi dysgwyr i ennill eu cymhwyster/cymwysterau.
Bydd y trefniadau a amlinellir isod yn cefnogi cynifer o ddysgwyr â phosibl i symud ymlaen i gam nesaf eu dysgu neu i gyflogaeth gan sicrhau y bydd cyflogwyr a phobl eraill yn cadw eu hyder yn nilysrwydd y cymwysterau.
Haf 2023: Crynodebau o Wybodaeth Ymlaen Llaw ar gael nawr
Gallwch nawr gael mynediad at Wybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau Haf 2023 yma.
Er mwyn cydnabod yr heriau parhaus a allai fod yn wynebu rhai canolfannau, mae'r addasiadau presennol ar gyfer y cymwysterau Craidd fel yr amlinellir isod yn cael eu hestyn ar gyfer pob dysgwr sy'n dysgu neu sydd wedi dechrau dysgu hyd at 31 Mawrth 2022 ac sydd i fod i gwblhau ei gymhwyster cyn 31 Rhagfyr 2022.
Bydd pob dysgwr sy'n dechrau ar ei ddysgu ar ôl 31 Mawrth 2022 yn cwblhau'r strategaeth asesu lawn.
Bydd yn ofynnol i bob dysgwr nad yw wedi cwblhau ei gymhwyster cyn 31 Rhagfyr 2022 gwblhau'r strategaeth asesu lawn.
Rhaid i ddysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 GChDDP craidd gwblhau'r asesiadau canlynol yn llwyddiannus:
Ar gyfer yr holl gymwysterau Craidd:
Lefel 2 GChDDP Ymarfer a Theori
Rydym yn cydnabod efallai na fydd rhai dysgwyr yn gallu cwblhau eu taith asesu cyn diwedd tymor yr haf; bydd y dysgwyr hyn yn gallu cwblhau eu lleoliad gwaith a'u taith asesu yn Hydref 2022 a chael eu cofrestru i'w dilysu yn ystod cyfnod yr Hydref/Tachwedd, gan ddefnyddio'r addasiad uchod.

Addasiadau i IGC a GChDDP: Cymwysterau craidd – 2021/22
Er mwyn cydnabod yr heriau parhaus a allai fod yn wynebu rhai canolfannau, mae'r addasiadau presennol ar gyfer y cymwysterau Craidd fel yr amlinellir isod yn cael eu hestyn ar gyfer pob dysgwr sy'n dysgu neu sydd wedi dechrau dysgu hyd at 31 Mawrth 2022 ac sydd i fod i gwblhau ei gymhwyster cyn 31 Rhagfyr 2022.
Mae'r estyniad hwn hefyd ar gael i ddysgwyr a oedd wedi’u hymrestru o 1 Medi 2019 ond y mae'r cyfnod ymrestru cychwynnol wedi dod i ben ar eu cyfer. Mae hyn yn berthnasol p'un a yw'r dysgwr wedi cael ei ailymrestru wedyn neu os yw ei gyfnod ymrestru wedi'i estyn yn awtomatig gan City & Guilds. Yn y ddau achos, mae'n dal yn ofynnol i'r dysgwr gwblhau ei gymhwyster cyn 31 Rhagfyr 2022.
Bydd pob dysgwr sy'n dechrau ar ei ddysgu ar ôl 31 Mawrth 2022 yn cwblhau'r strategaeth asesu lawn.
Bydd yn ofynnol i bob dysgwr nad yw wedi cwblhau ei gymhwyster cyn 31 Rhagfyr 2022 gwblhau'r strategaeth asesu lawn.
Dysgwyr a ddechreuodd eu rhaglen dysgu IGC Craidd hyd at 31 Mawrth 2022, ond nad ydynt wedi'u ymrestru eto gyda City & Guilds
Er mwyn gallu defnyddio'r addasiadau, rhaid i'r dysgwyr hyn fod wedi’u hymrestru gyda City & Guilds erbyn 31 Mai 2022 fan bellaf. Bydd angen i ddysgwyr sydd heb eu hymrestru erbyn y dyddiad hwn gwblhau'r strategaeth asesu lawn.
Addasiad Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Rhaid i ddysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Oedolion neu Blant a Phobl Ifanc (Llwybr unigol) gwblhau'r asesiadau canlynol yn llwyddiannus:
Rhaid i ddysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Oedolion a Plant a Phobl Ifanc (Llwybr cyfunol) gwblhau'r asesiadau canlynol yn llwyddiannus:
Cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 Ymarfer
Mae'r addasiadau presennol yn parhau i fod ar gael i BOB dysgwr drwy gydol y flwyddyn academaidd 2021/22. Mae'r rhain yn caniatáu defnyddio triongli Tystiolaeth Tyst Arbenigol, myfyrio dysgwyr a Thrafodaeth Broffesiynol YN UNIG mewn amgylchiadau lle mae cyfyngiadau Covid19 neu fesurau diogelu cysylltiedig yn effeithio ar fynediad aseswyr i'r gweithle.
Gofynnir i ganolfannau flaenoriaethu'r dysgwyr hyn i'w hardystio drwy gyfnod ardystio mis Awst, neu cyn hynny.
Bydd pob dysgwr a ymrestrwyd o 1 Medi yn cwblhau ei asesiad fel y nodir yn y pecynnau asesu, gan gynnwys y gofyniad i ddefnyddio arsylwi uniongyrchol gan aseswr cymwysedig a chymwys yn alwedigaethol fel prif ffynhonnell y dystiolaeth.
Dysgwyr sydd wedi defnyddio proses asesu wedi'i haddasu ar gyfer rhan o'u cymhwyster ond sydd heb gwblhau eu taith asesu cyn diwedd blwyddyn academaidd 2021/22
Bydd arsylwi uniongyrchol gan aseswr cymwysedig a chymwys yn alwedigaethol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynlluniau asesu sy'n weddill yn unol â gofynion y strategaeth asesu. Ni ddisgwylir i ddysgwyr ailadrodd asesiadau a gwblhawyd gan ddefnyddio'r dull wedi'i addasu. Cyn llunio eu barn gyffredinol, bydd aseswyr yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael cyn y drafodaeth grynodol ofynnol, gan gynnwys tystiolaeth a gynhyrchwyd gan ddefnyddio'r addasiadau. Os bydd angen rhagor o dystiolaeth cyn y gellir gwneud penderfyniad am gymhwysedd llawn, bydd yr aseswr yn dilyn y canllawiau sydd eisoes wedi'u hamlinellu yn y pecyn asesu llawn.
Lle bo'n bosibl, bydd pob canolfan yn parhau i flaenoriaethu'r strategaeth asesu lawn, gan gynnwys arsylwi uniongyrchol gan aseswr cymwysedig a chymwys yn alwedigaethol[1], ond mewn amgylchiadau lle mae mynediad at asesu yn dal i beri problemau oherwydd cyfyngiadau Covid 19 neu fesurau diogelu cysylltiedig, bydd yr addasiadau presennol yn parhau i fod ar gael i BOB dysgwr drwy gydol y flwyddyn academaidd 2021/22.
Gofynnir i ganolfannau flaenoriaethu'r dysgwyr hyn i'w hardystio drwy gyfnod ardystio mis Awst, neu cyn hynny.
Bydd pob dysgwr a ymrestrwyd o 1 Medi 2022 yn cwblhau ei asesiad fel y nodir yn y pecynnau asesu, gan gynnwys y gofyniad i ddefnyddio arsylwi uniongyrchol gan aseswr cymwysedig a chymwys yn alwedigaethol[2] fel sy'n ofynnol â rhai tasgau.
Dysgwyr sydd wedi defnyddio proses asesu wedi'i haddasu ar gyfer rhan o'u cymhwyster ond sydd heb gwblhau eu taith asesu cyn diwedd blwyddyn academaidd 2021/22
Os cyfeirir at hyn yn y tasgau asesu, disgwylir arsylwi uniongyrchol gan aseswr cymwys a chymwys yn alwedigaethol[3]. Ni ddisgwylir i ddysgwyr ailadrodd asesiadau a gwblhawyd yn barod gan ddefnyddio'r dull wedi'i addasu. Bydd prosesau DADCD (VARCS) a meini prawf marcio/graddio yn cael eu defnyddio gan aseswyr mewnol a/neu allanol i lunio barn derfynol. Os bydd angen rhagor o dystiolaeth cyn y gellir llunio barn derfynol, bydd yr aseswr mewnol ac/neu'r aseswr allanol yn dilyn y canllawiau sydd eisoes wedi'u hamlinellu yn y pecyn asesu llawn.
[1] Ac eithrio Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli IGC/GChDDP (8040-09/8041-16) lle gofynnir am aseswr cymwysedig a gwybodus yn alwedigaethol
[2] Ac eithrio Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli IGC/GChDDP (8040-09/8041-16) lle gofynnir am aseswr cymwysedig a gwybodus yn alwedigaethol
[3] ibid