Lefel 4
Nod y cymhwyster hwn yw datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiadau a'r sgiliau sy'n sail i Ymarfer Proffesiynol yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid sector allweddol, yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Lluniwyd y cymhwyster ar gyfer dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysgu uwch.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig datblygiad i ddysgwyr sydd wedi cwblhau unrhyw un o'r cymwysterau canlynol:
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc).
Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain cymorth ar gyfer lleihau ymarfer cyfyngol drwy ddulliau cadarnhaol ar gyfer ymddygiad), mae'n rhaid i ddysgwyr ennill
Rhif yr Uned |
Teitl yr Uned |
410 | Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog |
420 | Ymarfer proffesiynol |
421 | Arwain cefnogaeth i leihau arferion cyfyngol drwy ddulliau cadarnhaol i gefnogi ymddygiad |
Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gydag afiechyd meddwl) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned |
410 | Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog |
420 | Ymarfer proffesiynol |
422 | Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gydag afiechyd meddwl |
Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gyda dementia), mae'n rhaid i ddysgwyr ennill
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned |
410 | Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog |
420 | Ymarfer proffesiynol |
423 | Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gyda dementia |
Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gydag anabledd dysgu/awtistiaeth) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned |
410 | Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog |
420 | Ymarfer proffesiynol |
424 | Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gydag anabledd dysgu/awtistiaeth |
Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc anabl) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned |
410 | Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog |
420 | Ymarfer proffesiynol |
425 | Arwain ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc anabl |
Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned |
410 | Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog |
420 | Ymarfer proffesiynol |
426 | Arwain ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal |
Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer gyda theuluoedd/gofalwyr) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned |
410 | Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog |
420 | Ymarfer proffesiynol |
427 | Arwain ymarfer gyda theuluoedd a gofalwyr |
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
Mae'r asesiadau hyn wedi'u cynllunio i ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau o'r unedau gorfodol a chynnwys eu llwybr dewisol. Mae'r asesiadau'n cwmpasu amrywiaeth o elfennau ysgrifenedig i adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau ymarfer sy'n cynnwys arsylwi ymarfer dysgwyr yn uniongyrchol er mwyn cadarnhau eu bod yn meddu ar y sgiliau ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer cynnwys eu llwybr dewisol.
Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach ar lefel uwch.
I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
hclw.customer@cityandguilds.com
0844 543 0033 (opsiwn 3)
hclw.customer@cityandguilds.com
0844 543 0000 (opsiwn 6)
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Event | Link |
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
Cliciwch yma i weld |
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
Cliciwch yma i weld |
I wylio'r hyfforddiant bydd angen: