Lefel 4
Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiadau a sgiliau sy'n ategu Ymarfer Proffesiynol yn y sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Cafodd y cymhwyster hwn ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Cafodd ei lunio ar gyfer dysgwyr ym maes dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig y cam datblygu nesaf i ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer).
Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.
Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, rhaid i ddysgwyr ennill o leiaf 60 credyd i gyd.
Er mwyn ennill y cymhwyster, rhaid i ddysgwyr ddilyn un o'r tri llwybr canlynol:
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
Mae'r asesiadau wedi cael eu llunio i ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau o ran y ddwy uned orfodol a chynnwys y llwybr a ddewiswyd ganddynt. Mae'r asesiadau yn cynnwys nifer o elfennau ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau o ymarfer sy'n cynnwys arsylwi'n uniongyrchol ar ymarfer dysgwyr er mwyn cadarnhau eu cymhwysedd yn y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cynnwys y llwybr a ddewiswyd ganddynt.
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn eu gwaith neu i astudio ymhellach ar lefel uwch.
I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, gan gynnwys rolau swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
hclw.customer@cityandguilds.com
0844 543 0033 (opsiwn 3)
hclw.customer@cityandguilds.com
0844 543 0000 (opsiwn 6)
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau
i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.