Lefel 4
Nod y cymhwyster hwn yw datblygu'r wybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiadau a sgiliau sy'n sail i rolau eirioli annibynnol.
Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch.
Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni rôl eirioli annibynnol.
Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Eirioli Annibynnol, rhaid i ddysgwyr gyflawni:
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned | ODA | Credyd |
428 | Darparu eiriolaeth annibynnol – egwyddorion ac ymarfer | 154 | 32 |
429 | Deall deddfwriaeth yng nghyd-destun eirioli annibynnol | 55 | 9 |
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned | ODA | Credyd |
430 | Eiriolaeth annibynnol gydag oedolion | 10 | 11 |
431 | Eiriolaeth annibynnol gyda phlant a phobl ifanc | 20 | 13 |
432 | Eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol | 35 | 13 |
433 | Eiriolaeth galluedd meddyliol annibynnol | 40 | 17 |
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
Mae'r asesiadau wedi cael eu dylunio i'r ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau o ran yr unedau gorfodol a chynnwys eu dewis lwybr. Mae'r asesiadau yn cwmpasu ystod o elfennau ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau ymarfer sy'n cynnwys arsylwi ar ymarfer dysgwyr yn uniongyrchol er mwyn cadarnhau eu cymhwysedd yn y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ym maes eirioli annibynnol.
Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gamu ymlaen mewn gyrfa neu i astudio ymhellach ar lefel uwch.
I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
hclw.customer@cityandguilds.com
0844 543 0033 (opsiwn 3)
hclw.customer@cityandguilds.com
0844 543 0000 (opsiwn 6)
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.