Lefel 4
Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiadau a sgiliau gweithwyr sy'n gyfrifol am gefnogi lleoliadau/trefniadau cysylltu bywydau a Gofalwyr Lleoli Oedolion/Cysylltu Bywydau.
Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch.
Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni rôl sy'n cefnogi lleoliadau/trefniadau cysylltu bywydau a Gofalwyr Lleoli Oedolion/Cysylltu Bywydau.
Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Lleoli Oedolion/ Rhannu Bywydau, rhaid i ddysgwyr gael:
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned | ODA | Credyd |
434 | Cefnogi gofalwyr Lleoli Oedolion/ Cysylltu Bywydau | 115 | 27 |
Rhif yr Uned | Teitl yr Uned | ODA | Credyd |
435 | Meithrin dealltwriaeth o ddementia | 55 | 18 |
436 | Meithrin dealltwriaeth o anabledd dysgu ac awtistiaeth | 54 | 18 |
437 | Meithrin dealltwriaeth o salwch meddwl | 55 | 18 |
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
Mae'r asesiadau wedi cael eu dylunio i'r ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau o ran yr unedau gorfodol a chynnwys eu dewis lwybr. Mae'r asesiadau yn cwmpasu elfennau ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau ymarferol sy'n cynnwys arsylwi ar ymarfer dysgwyr yn uniongyrchol er mwyn cadarnhau eu cymhwysedd o ran y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cynnwys eu dewis lwybr.
Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gamu ymlaen mewn gyrfa neu i astudio ymhellach ar lefel uwch.
I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
hclw.customer@cityandguilds.com
0844 543 0033 (opsiwn 3)
hclw.customer@cityandguilds.com
0844 543 0000 (opsiwn 6)
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.