Lefel 3
Cymwysterau seiliedig ar wybodaeth fydd y rhain, wedi'u llunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr ôl16 sydd am ddatblygu gwybodaeth eang a dofn yn ymwneud â'r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddant yn cael eu llunio i'w cyflwyno mewn colegau addysg bellach ond gallent fod o ddiddordeb hefyd i'r chweched dosbarth mewn ysgolion a darparwyr eraill.
Bydd y cymwysterau hyn yn disodli'r cymwysterau safon Uwch a Lefel 3 presennol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddant yn gweithredu fel sail gadarn i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i addysg uwch neu i'r gweithle. Argymhellir yn gryf bod dysgwyr yn cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd cyn, neu ar yr un pryd â'r cymhwyster hwn.
Yn y cymwysterau hyn, ymdrinnir â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau creiddiol sy'n ofynnol gan y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnig sylfaen eang ar gyfer addysg bellach ac/neu uwch neu gyflogaeth yn y sectorau.
Bydd y cymwysterau’n cynnwys egwyddorion a damcaniaethau twf a datblygiad dynol. Mae'r testunau yn y flwyddyn gyntaf yn debygol o gynnwys:
Yn ystod ail flwyddyn y cymhwyster, gall dysgwyr ehangu ar eu hastudiaeth drwy ddewis dau destun o nifer o unedau dewisol.
Mae'r testunau'n debygol o gynnwys:
Yn y cymwysterau hyn disgwylir y bydd rhywfaint o ymgysylltu ystyrlon yn digwydd â chyflogwyr/y sector a allai gynnwys lleoliad gwaith gosod.
Asesir y cymwysterau hyn drwy gyfuniad o asesiad ysgrifenedig allanol ac asesiad di-arholiad:
Tystysgrif:
Mewnol: 2 aesiad di-arholiad
Allanol: 1 asesiad allanol drwy arholiad
Diploma:
Mewnol: 4 asesiad di-arholiad
Allanol: 2 asesiad allanol drwy arholiad
Gallai dysgwyr sy'n cwblhau'r cymwysterau Lefel 3 Tystysgrif a Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau ar yr un pryd â chymwysterau Lefel 3 eraill, yn cynnwys TAG, symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch mewn meysydd yn cynnwys:
Gall dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i addysg uwch ddewis cymryd y cymwysterau hyn ynghyd â'r TAG Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant gan gwblhau felly yr hyn sy'n gywerth â thri safon Uwch.
Gallai'r cymhwyster arwain at addysg a hyfforddiant pellach yn y gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant, yn cynnwys:
Swyddog Pwnc
IGCEaCh@cbac.co.uk
029 2240 4282
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCEaCh@cbac.co.uk
029 2240 4282
Gweld y ddogfen
Gweld y ddogfen
Gweld y ddogfen
Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu cymhwyster Lefel 3 Diploma Estynedig newydd i’w addysgu o fis Medi 2023. Gallwch ddarganfod mwy yma.
Teitl |
Cyswllt |
CBAC UG Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
https://www.amazon.co.uk/dp/1860857302?ref=myi_title_dp |
CBAC Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol: LLwybr Gofal Plant Unedau 3 & 4 |
https://www.amazon.co.uk/dp/186085740X?ref=myi_title_dp |
CBAC Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol: LLwybr Oedolion Iechyd a Gofal Cymdeithasol Unedau 5 & 6 |
https://www.amazon.co.uk/dp/1860857388?ref=myi_title_dp |
Digwyddiad | Dolen |
Lefel 3 IGC: Egwyddorion a Chyd-destunau (wedi'i recordio ar Fehefin 3ydd) |
Mae’r recordiad hwn o ddigwyddiad i gefnogi Lefel 3 IGC: Egwyddorion a Chyd-destunau ar 03/06/20 yn cael ei gyflwyno yn Saesneg gyda’r holl adnoddau cysylltiedig ar gael i’w lawrlwytho trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
I wylio'r hyfforddiant bydd angen: