Lefel 2
Lluniwyd y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru, sy'n gweithio neu sydd am weithio yn y canlynol:
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi ennill cymhwyster Lefel 1 neu nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Mae'r cymhwyster yn ymdrin â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sylfaenol o'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, ac mae'n adlewyrchu amrywiaeth o wahanol rolau ac oedrannau.
Drwy gwblhau'r cymhwyster hwn bydd dysgwyr yn gallu:
Cymhwyster llinol yw'r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd. Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r pum uned orfodol ganlynol i gyflawni'r cymwyster:
Uned | Teitl yr Uned | Asesu |
1 | Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed) | Mewnol ac Allanol |
2 | Iechyd, Llesiant, Dysgu a Datblygiad | Mewnol ac Allanol |
3 | Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant | Mewnol ac Allanol |
4 | Diogelu Plant | Mewnol ac Allanol |
5 | Iechyd a Diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | Allanol |
Caiff y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd ei asesu drwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn
llwyddiannus:
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i ennill cymwysterau pellach gan
gynnwys y cymwysterau canlynol sy'n rhan o'r gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, a Gofal Plant i Gymru:
Mae'r cymhwyster hefyd yn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth. Fodd bynnag, dylid nodi:
Mae'n ofynnol i Gofal Cymdeithasol Cymru gael rhestr o'r cymwysterau gofynnol y bydd eu hangen ar unigolyn sy'n gweithio yn y sector gofal, dysgu a datblygiad plant. Un o'r gofynion fydd ar y rhestr hon yw bod y rheini sy'n gweithio yn y sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn meddu ar y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd a chymhwyster ymarfer sy'n berthnasol i'r rôl. Am ragor o wybodaeth am ofynion gweithio yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, gweler fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant wedi'i reoleiddio yng Nghymru (https://socialcare.wales/resources/qualification-framework).
Hefyd, bydd angen i'r rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant wedi'u rheoleiddio gyda
phlant 8-12 oed ennill cymhwyster gwaith chwarae ychwanegol a enwir gan Skills Active i
fodloni gofynion y rheoleiddwyr.
Swyddog Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264
Mae gwasanaeth goruchwylio o bell newydd ar gael yn awr ar gyfer y cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd newydd, sy'n caniatáu sefyll profion ar lwyfan Surpass CBAC o gartref neu o'r gweithle, sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd i'ch ymgeiswyr ac yn golygu nad oes angen teithio erbyn hyn i’r ganolfan brawf.
Ewch i wefan CBAC i gael gwybod mwy am Oruchwylio o Bell.
Event | Link |
Lefel 2 GChDDP Craidd: Gweminar Paratoi i Addysgu (Mawrth 2019) |
Cliciwch yma i weld |
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2 GChDDP Craidd (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb - Cyfarfod Rhwydwaith GChDDP (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) | Cliciwch yma i weld |
PowerPoint Cymraeg o CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb – CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) |
Cliciwch yma i weld |
Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Craidd Rhwydwaith Hydref (2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb Rhwydwaith (Hydref 2020) | Cliciwch yma i weld |
Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Craidd Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) | Cliciwch yma i weld |
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Gwanwyn 2021) |
Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb Rhwydwaith (Gwanwyn 2021) |
Cliciwch yma i weld |
I wylio'r hyfforddiant bydd angen: