Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau (Asesu am y tro cyntaf 2024)

Lefel 3

Ar gyfer pwy mae'r cymwysterau?          

Bydd y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau wedi'u hanelu at ddysgwyr ôl-16 sy'n awyddus i ddysgu mwy am y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r cymwysterau yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, yn cynnwys:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, neu
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd.

Maen nhw hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn flaenorol ond sydd â'r gallu i astudio ar Lefel 3.

Beth mae'r cymwysterau yn ei gynnwys?

Mae'r cymwysterau yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y mae gofyn i ddysgwr eu cyflawni yn rhan o'r cymwysterau hyn yn adeiladu ar gynnwys y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd. Argymhellir yn gryf bod dysgwr sy'n ymgymryd â'r naill gymhwyster neu'r llall wedi cwblhau neu wrthi'n cwblhau'r cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.

Yn ôl gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru bydd angen i unigolyn sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gael y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd a chymhwyster Ymarfer perthnasol i weithio mewn rolau swyddi penodol.

Sylwer: mae angen i ddysgwyr fod mewn cyflogaeth os ydyn nhw'n ymgymryd â chymwysterau Ymarfer ar lefel 2 a 3.

Er mwyn cwblhau'r cymhwyster Diploma a Diploma Estynedig, mae'n ofynnol i ddysgwyr ymgysylltu â'r sector am o leiaf 100 awr, y mae'n rhaid treulio 60 awr ohonynt yn ymgymryd â lleoliad gwaith. 

Anogir canolfannau i sicrhau, lle y bo'n bosibl, bod dysgwyr yn cael profiad o ddau leoliad o leiaf yn ystod y cyfnod ymgysylltu â'r sector.

Pa gyfleoedd sydd i ddatblygu?

Mae’r fanyleb hon yn cynnig sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau. Gall dysgwyr hefyd fynd ymlaen i ddilyn cymwysterau eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, er enghraifft cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.

Yn ogystal, mae'r fanyleb hon yn cynnig cwrs astudio sy'n gydlynol, yn foddhaol ac yn werth chweil i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn symud ymlaen i astudio ymhellach yn y pwnc hwn.

Gyda phwy y gwnaethom ddatblygu'r cymwysterau?    

Datblygwyd y cymhwyster hwn gan y Consortiwm ar y cyd â rhanddeiliaid o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Yr oedd y rhain yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru y GIG, tiwtoriaid, athrawon ac aseswyr gweithleoedd.

Dewch o hyd i ganolfan

Manyleb

Gweld y ddogfen

Deunyddiau Cwrs

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - Uned 2

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - Uned 3

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - Uned 4

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - Uned 5

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - Uned 6

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - Uned 7

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - Uned 8

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - Uned 9

Canllaw Addysgu - Uned 1

Canllaw Addysgu - Uned 2

Canllaw Addysgu - Uned 3

Canllaw Addysgu - Uned 4

Canllaw Addysgu - Uned 5

Canllaw Addysgu - Uned 6

Canllaw Addysgu - Uned 7

Canllaw Addysgu - Uned 8

Canllaw Addysgu - Uned 9

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Mae adnoddau’n cael eu diweddaru ar hyn o bryd er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r cynnwys Diploma Estynedig newydd a byddant yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon wrth iddynt gael eu cymeradwyo.

Tanysgrifiwch am ddiweddariadau

Tanysgrifio