TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Gradd Unigol a Dwyradd)

TGAU

Recordiad Gweminar Trosolwg Cymhwyster

I wylio'r hyfforddiant bydd angen:

  • Porwr diweddar, fel Internet Explorer 8
  • Adobe Connect ynghyd ag ategyn Adobe wedi'i osod.
  • I lwytho'r feddalwedd cliciwch ar y ddolen yma. (Os nad oes hawl gennych lwytho'r feddalwedd, cysyllwch a'ch technegydd TGCH am gymorth.)

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Mae'r cymhwyster TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn addas ar gyfer dysgwyr 14-16 oed sydd â diddordeb mewn dysgu am ddatblygiad a gofal unigolion drwy gydol oes o adeg cenhedlu i oedolaeth ddiweddarach.

Nid oes unrhyw ofynion dysgu blaenorol ar gyfer y cymhwyster hwn. Mae'n addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi ennill cymhwyster Lefel 1 neu sydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol o'r sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygu plant.

Beth mae'r cymhwyster yn ei gynnwys?

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.

Mae'r materion canlynol wedi'u cynnwys yn y fanyleb:

  • twf, datblygiad a llesiant dynol
  • hybu a chynnal iechyd a llesiant
  • iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yn yr 21ain ganrif
  • hybu a chynnal iechyd a llesiant i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Strwythur y cymhwyster

Mae'r cymhwyster TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant ar gael fel gradd unigol a dwyradd. Mae unedau 1 a 2 yn diffinio'r cynnwys pwnc ar gyfer y cymhwyster gradd unigol. Mae unedau 1, 2, 3 a 4 yn diffinio'r cynnwys ar gyfer y cymhwyster dwyradd.

Uned Teitl yr Uned Asesu
1 Twf, datblygiad a llesiant dynol Allanol
2 Hybu a chynnal iechyd a llesiant Mewnol
3 Iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yn yr 21ain ganrif Allanol
4 Hybu a chynnal iechyd a llesiant er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol Mewnol

Asesu

Mae 40% o'r cymhwyster TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn cael ei asesu'n fewnol a 60% yn cael ei asesu'n allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • aseiniadau a osodir yn allanol, a'u marcio'n fewnol
  • arholiadau allanol.

At beth y gallai'r cymwysterau hyn arwain?

Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant i ddysgu/hyfforddiant a/neu gymwysterau pellach, gan gynnwys:

  • Lefel 3 Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • TAG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Prentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cysylltwch â ni

Karen Bushell

Swyddog Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2026 5147

Hilary Wyman

Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2026 5333

Dogfennau Allweddol

Manyleb

Gweld y ddogfen

Gwybodaeth Ymlaen Llaw - Haf 2023

Gweld y ddogfen

Adroddiadau Arholwyr (Haf 2022)

Gweld y ddogfen

Canllaw Addysgu

Gweld y ddogfen

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol

Gweld y ddogfen

Disgryfydd

Gweld y ddogfen

Ffurflen Archebu Gwerslyfr

Gweld y ddogfen

Uned 2 Asesiad di-arholiad - Taflen Farciau a Ffurflen Datganiad

Gweld y ddogfen

Uned 4 Asesiad di-arholiad - Taflen Farciau a Ffurflen Datganiad

Gweld y ddogfen

Cyflwyniad Noson Agored

Gweld y ddogfen

TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Gradd Unigol a Dwyradd)

Gweld y ddogfen

CBAC TGAU IGCGP Gradd Unigol a Dwyradd – Gwybodaeth Cyfnewid

Gweld y ddogfen

Deunyddiau Cwrs

TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Gradd Unigol a Dwyradd)

Cynllun Marcio: Uned 1

Cynllun Marcio: Uned 3

Cyn-bapur: Uned 1 (2022)

Cyn-bapur: Uned 1 (2023)

Cyn-bapur: Uned 3 (2022)

Llawlyfr Gweinyddu CBAC

Mae'r Llawlyfr Gweinyddu hwn yn rhoi'r wybodaeth hanfodol i ganolfannau yng Nghymru ar gyfer gweinyddu'r cymwysterau a reolir gan CBAC.

Gwerslyfrau

Teitl
Cyswllt
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Unedau 1 a 2 Llyfr Athrawon
https://www.amazon.co.uk/dp/B07Y4HSTS6?ref=myi_title_dp
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Unedau 3 a 4 Llyfr Athrawon
https://www.amazon.co.uk/dp/1860857035?ref=myi_title_dp
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Unedau 1 a 2 Llyfr Disgybl
https://www.amazon.co.uk/dp/B07Y4MRQHQ?ref=myi_title_dp
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Unedau 3 a 4 Llyfr Disgybl
https://www.amazon.co.uk/dp/1860857027?ref=myi_title_dp

Gweminar: TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant – Y Camau Nesaf (Llandudno)

Bu’n rhaid i ni ohurio’r digwyddiad hwn ohewydd y creisis firws.

Yn y cyfamser, rydym wedi cynhyrchu gweminar, wedi ei recordio, a fydd yn rhoi trosolwg o’r prif negeseuon o’r digwyddiad hwn ac sy’n cynnwys adnoddau a manylion cyswllt defnyddiol am ragor o gyngor.  Cliciwch ar y ddolen i gael mynediad at y weminar:

I wylio'r hyfforddiant bydd angen:

  • Porwr diweddar, fel Internet Explorer 8
  • Adobe Connect ynghyd ag ategyn Adobe wedi'i osod.
  • I lwytho'r feddalwedd cliciwch ar y ddolen yma

(Os nad oes hawl gennych lwytho'r feddalwedd, cysyllwch a'ch technegydd TGCH am gymorth).

Tanysgrifiwch am ddiweddariadau

Tanysgrifio