Lefel 3
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, sut y bydd trefn ddyfarnu TGAU ac UG/Safon Uwch yn gweithio yn haf 2021. Penderfynodd y Gweinidog na fydd arholiadau diwedd blwyddyn ar gyfer dysgwyr sy'n cymryd cymwysterau TGAU, UG na Safon Uwch. Darllenwch mwy
I wylio'r hyfforddiant bydd angen:
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.
Mae'r materion cyfredol canlynol wedi'u cynnwys yn y fanyleb:
Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn addas ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd â diddordeb mewn dysgu am ddatblygiad a gofal unigolion drwy gydol oes o adeg cenhedlu i oedolaeth ddiweddarach.
Bydd dysgwyr yn dilyn astudiaeth eang o iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant ar lefel UG, ac wedyn gallant ddewis rhwng dau lwybr ar lefel U2 i ddatblygu dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth naill ai mewn gofal plant neu iechyd a gofal cymdeithasol oedolion.
Mae'r cymhwyster yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 yn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant gan gynnwys:
Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr nad ydynt wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'r blaen ond sydd â'r gallu i astudio Lefel 3.
Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
wedi'i rannu'n gyfanswm o chwe uned, dwy uned UG (Uned 1 ac Uned 2) a phedair uned U2
(unedau 3, 4, 5 a 6). Mae dysgwyr Safon Uwch yn astudio cyfanswm o bedair uned: dwy uned
UG ynghyd â'r ddwy uned U2 yn ymwneud â'r llwybr a ddewiswyd ganddynt.
Uned | Teitl yr Uned | Asesu |
1 | Hybu iechyd a llesiant | Allanol |
2 | Cefnogi iechyd, llesiant a gwydnwch yng Nghymru | Mewnol |
3 | Persbectifau damcaniaethol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc | Allanol |
4 | Cefnogi datblygiad, iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc |
Mewnol |
5 | Persbectifau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion | Allanol |
6 | Cefnogi oedolion i gynnal iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc |
Mewnol |
Mae 50% o'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal
Plant yn cael ei asesu'n fewnol a 50% yn cael ei asesu'n allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r
canlynol yn llwyddiannus:
Mae’r cymhwyster yn cynnig sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy
amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu i gyflogaeth. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i
gymwysterau eraill o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.
Yn ogystal, mae'r fanyleb hon yn gwrs astudio sy'n gydlynol, yn foddhaol ac yn werth chweil i'r
dysgwyr hynny nad ydynt yn symud ymlaen i astudio ymhellach yn y pwnc hwn
Mae'r pwyntiau tariff UCAS canlynol ar gael am y cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal plant:
Gradd | Pwyntiau |
A* | 56 |
A | 48 |
B | 40 |
C | 32 |
D | 24 |
E | 16 |
Swyddog Pwnc
HSCandCC@wjec.co.uk
029 2240 4264
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
HSCandCC@wjec.co.uk
029 2240 4264
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Event | Link |
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
Cliciwch yma i weld |
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
Cliciwch yma i weld |
I wylio'r hyfforddiant bydd angen: