Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Ers mis Medi 2019 City & Guilds/CBAC yw unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant sydd wedi'u hariannu yng Nghymru.

Shutterstock 402459622

Mae City & Guilds / CBAC yn cyfuno cryfder dau sefydliad dyfarnu blaenllaw yn y farchnad cymwysterau a datblygu sgiliau. Ein cred yw i rymuso pobl gyda chyfleoedd i’r dyfodol, ein bwriad wrth ddatblygu a gweithredu'r gyfres newydd o gymwysterau yw helpu i helpu pobl i gael swydd, i ddatblygu yn y swydd a mynd ymhellach. Byddwn yn helpu i wneud hyn trwy:

  • hybu safonau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru
  • ddatblygu rhaglenni dysgu ac asesiadau sy'n bodloni anghenion cyflogwyr trwy eu rhoi wrth wraidd datblygiad
  • ddarparu llwybrau dilyniant clir i ddysgwyr fel eu bod yn deall eu camau gyrfa posib nesaf
  • gyflawni uchelgais grymuso cenedl sydd yn ddwyieithog.

Ein cenhadaeth yw darparu cymwysterau, adnoddau a gwasanaethau o ansawdd uchel a fydd yn cynorthwyo canolfannau i alluogi eu dysgwyr i gyflawni eu potensial ac i ddiwallu anghenion gweithle heddiw ac yfory. Darllenwch fwy yn ein Siarter Gwasanaeth Cwsmeriaid.